Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 21 Mai 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(200)v2

 

<AI1>

1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad mewn Chwaraeon (60 munud)

NDM5509 Christine Chapman (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad Mewn Chwaraeon, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14 Mai 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

</AI3>

<AI4>

4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5512 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi methiannau polisi Llafur Cymru yn ystod 15 mlynedd mewn llywodraeth yng Nghymru;

 

2. Yn gresynu at y diffyg perfformiad yn:

 

a) Yr economi, gyda gwerth ychwanegol crynswth (GYC) bellach ar 72.3% o gyfartaledd y DU;

 

b) Addysg, lle mae safle Cymru yn safleoedd PISA wedi dirywio ym mhob cyfnod asesu;

 

c) Y GIG, gydag un o bob saith yng Nghymru ar restr aros

 

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o lwyddiant Llywodraeth yr Alban o ran gwella twf economaidd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn cyd-destun datganoledig.

 

</AI4>

<AI5>

5 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5511 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i wynebu lefelau uchel o amddifadedd.

 

2. Yn cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru.

 

3. Yn nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo eu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynorthwyo'n uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu tlodi a gwella adfywiad ardaloedd ag amddifadedd yn y Cymoedd;

 

b) sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu anghenion rhieni;

 

c) sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y Cymoedd fynediad i hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau;

 

d) datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y Cymoedd.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

1. Yn cydnabod yr effaith y mae polisi economaidd Llywodraeth y DU wedi’i chael ar gymoedd de Cymru o ran:

 

a) sefydlogi’r economi a hybu twf economaidd;

 

b) rhoi hyder i gyflogwyr gynyddu cyfleoedd cyflogaeth;

 

c) cefnogi creu cyfoeth a fydd yn cyllido ac yn cynnal darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 3 ar ôl ‘gymdeithasol a diwylliannol’, rhoi:

 

‘ac yn condemnio’r camreolaeth sydd wedi arwain at gau rhai o ganolfannau pwysig o werth cymdeithasol a diwylliannol sylweddol yn yr ardaloedd hynny’.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys is-bwynt 4a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

cydlynu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r gymdeithas sifil yng nghymoedd de Cymru i sicrhau bod yr ardaloedd hynny yn manteisio i’r eithaf ar botensial twf economaidd Cymru.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 4d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

‘annog awdurdodau lleol yn y Cymoedd i ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i ddynodi Asedau o Werth Cymunedol a gwarchod adeiladau pwysig rhag y perygl o orfod cau.’

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

 

Yn gresynu bod Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi bod yn gymwys ar gyfer tri chylch o gyllid strwythurol yr UE gan eu bod yn is na 75% o gynnyrch mewnwladol crynswth yr UE.

</AI5>

<AI6>

Cyfnod Pleidleisio

</AI6>

<AI7>

6 Dadl Fer (30 munud)

NDM5513 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Sgrinio ar gyfer Dyslecsia yng Nghymru

 

Pwysigrwydd sgrinio amserol a digonol ar gyfer dyslecsia yng Nghymru, yn enwedig o ran technegau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer sgrinio plant ysgol gynradd sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mehefin 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>